Diwrnod ym mywyd: Sefydliadau GIG Cymru
Gweithgarwch, galw a chyd-destun iechyd y boblogaeth ar gyfer pob bwrdd iechyd a sefydliad cenedlaethol yn GIG Cymru.

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd yn y GIG ar ddiwrnod cyffredin?
Ar y cyd â'n sefydliadau aelod, rydym wedi datblygu taflenni ffeithiau sy'n rhoi cipolwg ar weithgarwch, galw a chyd-destun iechyd y boblogaeth ar gyfer yr holl sefydliadau sy'n rhan o GIG Cymru: y saith bwrdd iechyd lleol, y tair ymddiriedolaeth GIG Cymru-gyfan a'r ddau awdurdod iechyd arbennig.