The NHS Alliance homepage

Sut mae'r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cefnogi'r system iechyd a gofal yng Nghymru?

4 August 2026

Mae'r erthygl esboniadol hon gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) o’r enw Prosiect Iechyd a Gofal yn edrych ar bwysigrwydd rôl y sector gwirfoddol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

  • Prevention

  • Community

  • Cross-sector partnerships

  • Social care

  • Health inequalities

Cyflwyniad

Mae'r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn rhan annatod o system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.  

Yn ôl Hwb Data'r Trydydd Sectormae dros 47,600 o sefydliadau'r sector gwirfoddol (grwpiau di-elw, anllywodraethol) yng Nghymru. Dengys data gan Brosiect Iechyd a Gofal Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) bod mwy na 10,000 o sefydliadau gwirfoddol, ledled Cymru, yn darparu gwasanaethau sy'n rhoi ymyrraeth gynnar a chymorth ataliol.  

Ar ben hynny, mae dros 15,000 o wirfoddolwyr (pobl sy'n rhoi o'u hamser yn hael er budd eraill) yng Nghymru yn gwirfoddoli gydag elusennau iechyd a gofal cofrestredig. Mae eu cyfraniad yn cwmpasu darparu gwasanaethau uniongyrchol, rhoi cefnogaeth i ddarpariaeth statudol (gwasanaethau cyhoeddus gorfodol yn ôl y gyfraith a ddarperir gan y llywodraeth, awdurdodau lleol a'r GIG), a gweithgareddau llesiant cymunedol ehangach. Gyda'i gilydd, mae'r rolau hyn yn cryfhau gwaith ataliol, yn gwella canlyniadau ac yn helpu i leihau'r galw ar wasanaethau statudol. 

Beth yw rôl y sector gwirfoddol?

Mae'r sector gwirfoddol wedi cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ers tro byd, a hynny yn aml cyn y wladwriaeth les fodern. Heddiw, mae'n parhau i fod yn hanfodol i gyflawni canlyniadau iechyd a llesiant gwell. 

Mae rhai sefydliadau'n darparu gwasanaethau hanfodol, fel gofal hosbis neu achub brys. Mae eraill yn darparu gwasanaethau a gomisiynir yn rheolaidd mewn partneriaeth â chyrff statudol. Mae llawer yn gweithredu'n annibynnol ond yn dal i gyfrannu at nodau llesiant cenedlaethol a rennir. 

Fel y nodir yn yr adroddiad Pam mae'r trydydd sector yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae sefydliadau gwirfoddol yn cyfrannu at iechyd a gofal mewn pedair prif ffordd: 

  • Darparu gwasanaethau a gomisiynir, fel rhaglenni camddefnyddio sylweddau. 

  • Gwella darpariaeth statudol, er enghraifft drwy gynlluniau gwirfoddoli a chyfeillio mewn ysbytai. 

  • Cefnogi llesiant cymunedol, gan gynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd, diffyg diogeledd bwyd ac ynysigrwydd cymdeithasol. 

  • Adeiladu capasiti'r system, drwy weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a chlystyrau gofal sylfaenol. 

Mae'r cyrhaeddiad hwn yn galluogi sefydliadau gwirfoddol i gefnogi pobl nad ydynt efallai'n ymgysylltu â gwasanaethau statudol, yn enwedig y rhai ag anghenion cymhleth neu gyflyrau hirdymor. 

Pa werth mae'r sector gwirfoddol yn ei ychwanegu?

Mae 'Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector', papur cydweithredol a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Bevan, yn tynnu sylw at saith maes lle mae'r sector gwirfoddol yn cryfhau gwasanaethau prif ffrwd: 

Er gwaethaf y cyfraniad hwn, mae'r sector yn wynebu heriau sylweddol. Mae Baromedr Cymru, arolwg sector gwirfoddol chwarterol Cymru, yn dangos bod y galw am wasanaethau yn cynyddu, tra bod cyllid yn parhau i fod yn ansicr ac yn aml yn fyrdymor. Mae llawer o sefydliadau'n nodi pwysau ariannol, cronfeydd wrth gefn llai ac anawsterau wrth recriwtio staff a gwirfoddolwyr. Mae'r pwysau hyn yn peryglu cyfyngu ar allu'r sector i gynnal ac ehangu ei rôl. 

Pa gyfraniad mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i iechyd a gofal?

Mae Gwerthoedd a Gwerth Gwirfoddoli yn tynnu sylw at sut mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad ymarferol a mesuradwy at wasanaethau iechyd a gofal. Maent yn aml yn diwallu anghenion anghlinigol, fel darparu cwmni, tawelwch meddwl a chymorth ymarferol. Mae hyn yn gwella profiad y claf ac yn cefnogi adferiad ac annibyniaeth. 

Wrth wneud hynny, mae gwirfoddolwyr yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ganolbwyntio ar dasgau sy'n gofyn am arbenigedd clinigol. Mae tystiolaeth gan Helpforce yn dangos bod staff yn gwerthfawrogi'r cyfraniad hwn, gyda llawer yn nodi llai o bwysau a mwy o gapasiti i ddarparu gofal o ansawdd uchel pan fydd gwirfoddolwyr yn cymryd rhan. 

Mae Llywodraeth Cymru a WCVA wedi nodi uchelgeisiau ar gyfer gwirfoddoli drwy Ddull Newydd o Wirfoddoli cenedlaethol sy'n anelu at gael gwared ar rwystrau a chefnogi cyfranogiad. Mae'n cydnabod gwirfoddoli fel ased cymdeithasol ac elfen allweddol o'r system iechyd a gofal.  

Drwy Gefnogi Trydydd Sector Cymru, mae WCVA a 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVCs) Cymru yn helpu i gysylltu sefydliadau, cefnogi gwirfoddolwyr a chryfhau partneriaethau â gwasanaethau statudol.

Pa effaith sydd gan y sector gwirfoddol ar bobl a chymunedau?

Mae'r sector gwirfoddol wedi'i wreiddio yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o system gofal cymunedol integredig. Dyma rai enghreifftiau diweddar o sut mae'r sector gwirfoddol yn gwella bywydau: 

Gofal mamolaeth

Mae Birth Partner Project Caerdydd yn cynnig partneriaid geni gwirfoddol i geiswyr lloches beichiog unigol o wythnos 34 o feichiogrwydd. Mae'n sicrhau bod rhywun gyda nhw bob amser yn ystod y cyfnod esgor.

Gofal Canser

Nod Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yw gwella canlyniadau canser mewn cymunedau glofaol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae'n cynnig cefnogaeth anghlinigol un-i-un i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser. Mae pob claf yn derbyn asesiad anghenion holistaidd electronig, cynllun gofal a chymorth i reoli heriau byw gyda chanser. 

O'r ysbyty i'r cartref

Nod PIVOT yng Ngorllewin Cymru yw atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain neu ddychwelyd iddynt drwy ddarparu amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth gymunedol. Gallwch wylio fideo am waith PIVOT ac eraill. 

Iechyd meddwl

Mae amryw o sefydliadau, fel New Horizons , yn cynnig cymorth iechyd meddwl. Er enghraifft, mae cyrsiau 'Coleg adferiad' yn grymuso pobl i ddatblygu gwahanol sgiliau a rheoli eu hanghenion llesiant ac iechyd meddwl.

Beth yw'r fframwaith polisi a deddfwriaethol sy'n sail i rôl y sector gwirfoddol?

Mae rôl y sector gwirfoddol wedi'i hategu gan fframwaith polisi a deddfwriaethol cryf yng Nghymru, sy'n pwysleisio partneriaeth, atal a llesiant. 

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Sefydlodd y Ddeddf hon Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor a gweithio tuag at saith nod llesiant, gan gynnwys 'Cymru iachach'. Mae'n annog cydweithio â'r sector gwirfoddol a symudiad tuag at atal.  

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Mae'r ddeddfwriaeth hon yn hyrwyddo integreiddio a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n gofyn am weithio mewn partneriaeth drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPBs), lle mae'r sector gwirfoddol yn cael ei gynrychioli. Mae Adran 16 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a chydweithredol, gan gefnogi marchnad gofal amrywiol.  

  • Cymru Iachach: Roedd strategaeth hirdymor Llywodraeth flaenorol Cymru yn nodi dull system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cydnabod y sector gwirfoddol fel partner allweddol wrth ddarparu modelau gofal integredig yn y gymuned. 

Beth yw perthynas y sector gwirfoddol â Llywodraeth Cymru?

Roedd Adran 74 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i weinidogion Cymru nodi sut y byddai'r llywodraeth yn hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol perthnasol. O ganlyniad, datblygwyd Cynllun y Trydydd Sector. 

Sefydlodd y cynllun Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, sy'n golygu bod cynrychiolwyr o rwydweithiau sy'n cwmpasu 25 o feysydd gweithgarwch y sector gwirfoddol - fel yr amgylchedd, anabledd, a phobl hŷn - yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru i drafod materion sy'n effeithio ar y sector gwirfoddol. Sefydlodd y trefniadau rwydweithiau penodol i bortffolios hefyd. Er enghraifft, mae Grŵp Cynllunio Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Sector Gwirfoddol yn trefnu cyfarfodydd gyda gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae cyllid yn rhoi’r modd i sefydliadau’r sector gwirfoddol dalu costau a darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector yng Nghymru yn nodi egwyddorion ar gyfer dyrannu grantiau'n effeithiol a chomisiynu cyhoeddus gwasanaethau'r sector gwirfoddol. Y rhain yw:    

Beth yw'r partneriaethau allweddol yn y sector gwirfoddol?

Mae'r sector gwirfoddol yn rhan o nifer o bartneriaethau allweddol: 

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mae cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn eistedd ochr yn ochr â chydweithwyr o'r sector statudol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac yn cynnig safbwyntiau pwysig ar anghenion gofal a chymorth pobl yn eu hardal. Mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol o leiaf un cynrychiolydd o'r sector gwirfoddol o'u hardal. Mae'n ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd gael gofalwr di-dâl ymhlith eu cynrychiolwyr. Mae tudalen 15 o'r canllawiau statudol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhestru pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. 

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r sector gwirfoddol hefyd wedi'i gynrychioli ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n anelu at wella cydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus. 

Byrddau iechyd lleol

Mae'r sector hefyd ar fyrddau byrddau iechyd lleol, sy'n gyfrifol am wasanaethau'r GIG, yn ogystal â gwella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol a hyrwyddo llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws eu poblogaeth.

I ddeall rhagor am strwythur GIG Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyheddus, gweler ein hesboniad Sut mae'r GIG wedi'i strwythuro yng Nghymru? 

Casgliad

Mae cyrhaeddiad y sector gwirfoddol i gymunedau, ei berthnasoedd â grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol a'i allu i ymateb yn hyblyg i anghenion lleol, yn ei osod fel partner strategol allweddol wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio fwy ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar ardal.  

Mae cryfhau cydweithio, sicrhau cyllid cynaliadwy a gwreiddio'r sector mewn arweinyddiaeth systemau yn hanfodol i ddarparu gofal mwy integredig ac ataliol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru, ac yn arwain at ganlyniadau iechyd a gofal gwell ledled y wlad. 

 

Read in English.