The NHS Alliance homepage

Blwyddyn i fynd: Galwadau arweinwyr y GIG wedi'u cyhoeddi ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad yn nodi’r hyn y mae arweinwyr y GIG yng Nghymru ei eisiau gan Lywodraeth nesaf Cymru.

  • Community

  • Digital

  • Finance

  • NHS architecture

  • Primary care

  • Prevention

  • Social care

  • Workforce

Flwyddyn cyn etholiad y Senedd, mae adroddiad newydd gan Gonffederasiwn GIG Cymru yn nodi'r hyn y mae arweinwyr y GIG yng Nghymru eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru ei flaenoriaethu wrth i wasanaethau ymdopi â galwadau cynyddol.

Wedi'i ddatblygu yn dilyn arolwg gan 95 o arweinwyr y GIG ledled Cymru, mae corff aelodaeth sefydliadau GIG Cymru yn galw am fwy o ffocws ar atal a phenderfynyddion ehangach iechyd, a fydd gofyn am symud at gyllidebau a chynllunio hirdymor.

Mae'r adroddiad yn amlinellu sut, heb fwy o ffocws ar atal a'r tymor hir, mae'r baich rhagweladwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn anorchfygol. Mae hyn yng ngoleuni anghenion cynyddol y boblogaeth gan fod salwch y gellir ei atal ar gynnydd. Mae hyn yn golygu y disgwylir i nifer y bobl sy'n byw gyda phedwar neu fwy Cyflwr Hirdymor ddyblu i erbyn 2035*.

Yn yr arolwg, cefnogodd 87% o arweinwyr y GIG gynllun trawslywodraethol ar gyfer gwella iechyd i symud y ffocws o drin salwch i hyrwyddo iechyd a llesiant. Felly mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol drawslywodraethol i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau. Mae'n dweud y bydd hyn yn symud y ffocws i atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau anghydraddoldebau a mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, hybu twf economaidd a chefnogi pobl i fod yn bartneriaid gweithredol yn eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

Wrth roi sylwadau ar gyhoeddiad yr adroddiad, a fydd yn cael ei drafod gyda phob plaid wleidyddol, dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:

“Rydym yn gwybod bod disgwyl i bethau fynd yn anoddach, a bydd cyfran y boblogaeth 80 oed a hŷn yn dyblu rhwng 2000 a 2038* - carfan sydd eisoes yn cyfrif am gyfran enfawr o weithgarwch dyddiol y GIG.

“Dim ond i raddau cyfyng y gall y GIG a chyrff cyhoeddus eraill fynd i wneud cynnydd ystyrlon, cynaliadwy a chydlynol os nad yw’r amodau cywir ar waith. Mae'n bwysicach nag erioed bod llywodraethau, sectorau a sefydliadau'n dechrau meddwl yn wahanol am iechyd a llesiant, sut rydym yn darparu gwasanaethau ac yn creu cymunedau gwydn. Mae cylchoedd ariannu tymor byr presennol, sy'n mynd yn groes i'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn creu ansicrwydd hirdymor, ac maent yn atal gallu ein haelodau i gynllunio ar gyfer y dyfodol a gwneud y defnydd gorau o arian trethdalwyr.

“Nawr yw’r amser i flaenoriaethu buddsoddiad mewn atal er mwyn gwrthdroi’r dirywiad yn iechyd a llesiant y genedl, mynd i’r afael ag achos sylfaenol anghydraddoldebau iechyd a galluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.”

0/0
  • Training
    Abstract background with curved blue and green tones in NHS Providers’ brand style, featuring the Board Development programme logo.

    NHS finance for senior leaders

    3 March 20279:30 - 16:00Online

    Develop a greater understanding of NHS financial principles, funding flows and reporting to strengthen your confidence to effectively contribute at board level.

    • Leadership

    • Finance

  • Conference

    Care closer to home conference 2027

    24 February 20278:00 - 17:00In-person

    This conference will explore how a Neighbourhood Health Service can help create healthier populations, stronger communities and more sustainable public services. 

    • Neighbourhood health

    • Social care

  • Conference
    Delegates watching a plenary session

    The NHS Alliance Autumn Conference 2026

    26 November 20268:00 - 17:00In-person

    The NHS Alliance Autumn Conference brings together senior leaders to share knowledge, discuss ideas, tackle shared challenges, & talk about how to shape the future of our health & care service.

    • Leadership

    • Cross-sector partnerships

    • Regulation

    • Social care

    • Health inequalities

  • Conference

    WelshConfed26: Iechyd a gofal yng Nghymru: os nad nawr, pryd?

    3 - 4 November 2026In-person

    Mae Cynhadledd ac arddangosfa Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru yn uno arweinwyr yn nigwyddiad iechyd a gofal Cymru eleni.

    • Community

    • Cross-sector partnerships

    • Digital

    • Improvement

    • Leadership

    • Prevention

    • Primary care

    • Workforce

  • Conference

    WelshConfed26: Welsh NHS Confederation Annual Conference & Exhibition

    3 - 4 November 2026In-person

    WelshConfed26 unites leaders at Wales' health and care event of the year.

    • Community

    • Cross-sector partnerships

    • Digital

    • Improvement

    • Leadership

    • Prevention

    • Primary care

    • Workforce

  • Event

    Getting to grips with cyber security

    2 November 202610:30 - 12:00Online

    Join our Digital Boards programme peer learning event exploring best practice in cyber security.

    • Digital